2014 Rhif 3082 (Cy. 306)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae bathodyn parcio person anabl (“Bathodyn Glas”) yn galluogi'r deiliad i fanteisio ar nifer o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag taliadau penodol sy'n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth am roi bathodynnau gan awdurdodau lleol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Prif Reoliadau i adlewyrchu diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2013 (“Deddf 2013”), i adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (“Deddf 1970”) ynghylch ffurf y Bathodyn Glas ac yn egluro’r modd y cymhwysir darpariaethau penodol o'r Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2 hefyd yn cyflwyno 2 ddosbarth newydd o gymhwystra. Caniateir i Fathodyn Glas gael ei ddarparu bellach i bersonau sy'n derbyn budd-daliadau penodol mewn cyfandaliadau a ddarperir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011 pan fônt wedi dioddef anhwylder meddyliol parhaol sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar eu gallu i weithredu. Caniateir darparu Bathodyn Glas hefyd i bersonau nad ydynt, o ganlyniad i anhwylder meddyliol, yn gallu dilyn llwybr taith gyfarwydd heb gymorth person arall.

Mae paragraff (2) o reoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o “bathodyn person anabl” i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2013 sy'n darparu bod yn rhaid i fathodynnau bellach fod ar ffurf a gymeradwyir yn unol ag adran 21(1A) o Ddeddf 1970 yn hytrach nag ar ffurf a ragnodir mewn rheoliadau. 

Mae paragraff (4) o reoliad 2 yn egluro darpariaethau'r Prif Reoliadau sy'n caniatáu awdurdod i wrthod rhoi bathodyn mewn amgylchiadau pan fo’r ceisydd eisoes yn dal bathodyn a roddwyd gan awdurdod arall, fel eu bod hefyd yn gymwys i fathodyn a roddwyd y tu allan i Gymru.

Mae paragraff (5) o reoliad 2 yn egluro darpariaethau'r Prif Reoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r bathodyn gael ei ddychwelyd mewn amgylchiadau pan roddir bathodyn i ddeiliad gan fwy nag un awdurdod, fel eu bod hefyd yn gymwys i fathodynnau a roddir y tu allan i Gymru. Mae hefyd yn cyflwyno gofyniad newydd bod yn rhaid i fathodyn a gedwir gan gwnstabl neu swyddog gorfodi mewn amgylchiadau penodol yn unol â phŵer newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf 2013, gael ei ddychwelyd i'r deiliad cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Trafnidiaeth Gyhoeddus, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2014 Rhif 3082 (Cy. 306)

traffig ffyrdd, cymru

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                            18 Tachwedd 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2014

Yn dod i rym                        17 Rhagfyr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970([1]), a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru([2]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2014, a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “anhwylder meddyliol yr un ystyr ag a roddir i “mental disorder” yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983([4]).

Diwygio’r Rheoliadau

2.(1) Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000([5]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (8).

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “bathodyn person anabl” yn lle “ar y ffurf a ragnodir gan reoliad 11” rhodder “ar ffurf a bennir neu a gymeradwyir yn unol ag adran 21(1A) o Ddeddf 1970”.

(3) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl)—

(a)     yn lle paragraff (2)(ch2) rhodder—

“(ch2) wedi cael budd-dal cyfandaliad o dan erthygl 15(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2011([6]) (“Gorchymyn 2011”)—

            (i) o fewn lefelau tariff 1 i 8 yn gynwysedig fel y nodir yn Rhan 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011 ac wedi ei ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded neu anhawster cerdded sylweddol iawn; neu

                  (ii) ar lefel tariff 6 yn Nhabl 3 (Anhwylder Meddyliol) o Ran 1, Atodlen 3 i Orchymyn 2011.”;

(b)     ar ôl paragraff (2)(dd) mewnosoder—

“(dd2) o ganlyniad i anhwylder meddyliol, yn methu â dilyn llwybr taith gyfarwydd heb gymorth person arall; ”.

(4) Yn rheoliad 8 (seiliau dros wrthod rhoi bathodyn), ym mharagraff (2)(d), yn lle “sydd wedi’i roi gan awdurdod rhoi arall” rhodder “a roddwyd o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o'r Ddeddf honno”.

(5) Yn rheoliad 9 (dychwelyd bathodyn i’r awdurdod rhoi)—

(a)     ym mharagraff (1)(dd), dileer “neu fod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i'r deiliad gan awdurdod rhoi arall”;

(b)     ar ôl paragraff (1)(dd), mewnosoder—

“; neu

(e) bod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i'r deiliad o dan adran 21 o Ddeddf 1970 neu fathodyn a gydnabyddir o fewn ystyr adran 21A o'r Ddeddf honno.”;

(c)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

“(1A) Yn achos bathodyn y mae adran 21(4D)(b)(iii) o Ddeddf 1970 yn gymwys iddo a gedwir gan gwnstabl neu swyddog gorfodi yn unol â'r adran honno, rhaid i'r bathodyn gael ei ddychwelyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol resymol—

      (a) i'r awdurdod rhoi; a

      (b) ar ôl ei ddychwelyd i'r awdurdod rhoi, gan yr awdurdod rhoi i'r deiliad, ar yr amod nad oes gan yr awdurdod rhoi seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad i’r deiliad yn unol â pharagraff (2).”

(6) Yn y pennawd i Ran III, yn lle “Ffurf Bathodynnau a’u Harddangos” rhodder “Arddangos Bathodynnau”.

(7) Hepgorer rheoliad 11 (ffurf bathodyn).

(8) Hepgorer yr Atodlen.

 

 

 

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2014

 

 

 



([1]) 1970 p.44.  Diwygiwyd adran 21, i'r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40) adran 35, Atodlen 8 a Deddf Bathodynnau Parcio Personau Anabl (p.4) adrannau 1 i 6.

([2]) Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi.

([3]) Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([4]) Diwygiwyd adran 2(1) gan baragraff 2 o Atodlen 10 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12).

   

([5]) O.S. 2000/1786 (Cy.123). 

([6]) O.S. 2011/517.